databas cerddi guto'r glyn

Y gyfraith


Roedd dysgu’r gyfraith yn rhan o addysg nifer o uchelwyr a gwŷr eglwysig yn y bymthegfed ganrif. Roedd y term ‘y gyfraith’ yn cael ei ddefnyddio am amrywiol reolau. Cyfeiria’r beirdd weithiau at dair cyfraith, fel yn achos cerdd a ganodd Guto’r Glyn i annog Edward IV i adfer trefn yng Nghymru (cerdd 29.56). Y tebyg yw mai cyfraith statud, cyfraith gyffredin a chyfraith eglwysig a olygir, er ei bod yn bosibl fod cyfraith Hywel Dda yn un o’r tair.[1]

Roedd nifer helaeth o noddwyr beirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed ganrif yn swyddogion a chanddynt gyfrifoldeb am weinyddu’r gyfraith yn eu gwahanol ardaloedd.[2] Yr enwocaf ohonynt ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg oedd Syr Dafydd Hanmer. Mae ei enwogrwydd a’i yrfa ddisglair yn fyw o hyd yng nghof y beirdd, fel y noda Guto’r Glyn yn ei gerdd foliant i’w ŵyr, Siôn Hanmer o Halchdyn a Llai (cerdd 75).

Weithiau, nodir yn syml i’r noddwr fod ar far neu ar fainc, fel yn achos Dafydd ap Meurig Fychan o Nannau, Wiliam Fychan ap Gwilym o’r Penrhyn ac aelodau o deulu Elen ferch Robert Pilstwn o’r Llannerch (cerdd 49.32, cerdd 56.51, cerdd 53.10). Yr awgrym yw, mae’n debyg, eu bod yn ymwneud â’r gyfraith ac o bosibl yn gwrando ar achosion cyfreithiol yn eu siroedd. Ond nid yw’n gwbl amhosibl i ambell noddwr fynd gam ymhellach a derbyn addysg prifysgol ym maes y gyfraith. Wrth drafod addysg debygol y bardd Ieuan ap Rhydderch, awgrymir mai ar ôl graddio yn y celfyddydau neu’r art y byddai myfyriwr yn cael mynd i gyfadran y gyfraith i astudio’r gyfraith sifil a’r gyfraith ganon.[3] Ceir awgrym cryf yng nghywydd Guto’r Glyn i Sieffrai Cyffin ap Morus dderbyn rhyw addysg ym myd y gyfraith:

Sieffrai, a yf osai Ffrainc, 
Sylfaen ac iestus holfainc, 
Cyfreithiwr, holwr haelwych, 
Coetmawr i’r Dref-fawr dra fych, 
Capten i Fainc y Brenin, 
Cyfyd cyfraith fyd o’th fin, 
Pleder ar bob hawl ydwyd 
Powls oll a’r Comin Plas wyd. 
Sieffrai, sy’n yfed gwin osai o Ffrainc,
sylfaen ac ustus gorsedd barn,
cyfreithiwr o Goetmor i Drefor
tra byddi byw, achwynwr hael a gwych,
capten i Fainc y Brenin,
daw o’th wefus gyfraith sifil,
plediwr wyt ym mhob achos,
cadeirlan Sant Paul a Chwrt y Comin Plas yn gyfan wyt.

(cerdd 99.1-8)


Yn y dyfyniad, cyfeirir at sedd barnwr (holfainc) a Mainc y Brenin, sef talfyriad o Gwrt Mainc y Brenin ‘Court of King’s Bench’. Cynhelid y llys barn hwn yng ngŵydd y brenin yn wreiddiol, gan fynd i’w ganlyn o amgylch y wlad o ganlyniad. Nodir hefyd ei wybodaeth o gyfraith sifil ac iddo wisgo’r coiff, sef y capan a wisgid gan gyfreithwyr:

Yng Ngwynedd yr eisteddych 
O fewn coiff ar y Fainc wych; 
Yng Ngwynedd yr eisteddi
mewn coiff ar y Fainc wych;

(cerdd 99.9-10)


Er y gall mai gormodiaith hael yw rhai o’r cyfeiriadau at yrfa ddisglair Sieffrai ym myd y gyfraith, gallent adlewyrchu, i raddau, y cyfrifoldebau cyfreithiol pwysig a fu ganddo fel distain arglwyddiaeth swydd y Waun. Ymhellach am y gyfraith yng Nghymru’r Oesoedd Canol gw. Cyfraith Hywel.

Bibliography

[1]: Gw. nodyn Barry Lewis ar gerdd 29.56.
[2]: B.O. Huws, ‘Rhan o awdl foliant ddienw i Syr Dafydd Hanmer’, Dwned, 9 (2003), 45.
[3]: R.I. Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth, 2003), 140.
<<<Llythrennedd      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration