databas cerddi guto'r glyn

Brodwaith

A glove found in Wales with fine embroidery work, c.1625.
Fine embroidery work on glove
Click for a larger image

Roedd gwaith brodio ar wisgoedd yn ddigon cyffredin, yn enwedig ar ddwbledi a mentyll a wisgid gan uchelwyr. Er na wyddom yn union faint o’r gwaith hwn oedd yn cael ei wneud yng Nghymru ei hun - dichon mai mewnforio gwisgoedd ac arnynt frodwaith yn barod a wnâi’r uchelwyr mwyaf cefnog - ceir ambell i gyfeiriad gan y beirdd fod gwragedd yn arbennig yn hoff o frodio.[1] Yn wir, mae hoffter y beirdd o gymharu gwaith brodio a gwehyddu â’u crefft eu hunain o lunio barddoniaeth yn awgrymu eu bod yn ddigon cyfarwydd â’r grefft o frodio ar ddefnydd.[2]

Mae’r beirdd hefyd yn hoff iawn o ddefnyddio termau am waith brodio i ddelweddu pethau eraill. Defnyddir y gair pwrffil gan Iolo Goch i ddisgrifio aradr; ystyr pwrffil yw godreon mantell a oedd yn cynnwys brodwaith cain.[3] Defnyddir yr un gair gan Guto’r Glyn wrth ddisgrifio tŷ Syr Siôn Mechain yn Llandrinio, meddai:

Llyn perffaith fal llun pwrffil, 
Llys o’i fewn, lle iso i fil, 
Llys daear ynys Drunio, 
Llys i holl Bowys lle bo. 
Llyn perffaith fel ffurf godre gwisg,
llys o’i fewn, lle isod i fil o bobl,
llys daear bro Trunio,
llys i Bowys gyfan lle y mae.

(cerdd 85.13-16)


Yr hyn a olygir yw fod y tŷ yn werth ei weld, fel llun wedi ei frodio ar ymylwe dilledyn.

Mae’n amlwg fod y pyrsau a dderbyniodd Guto gan Risiart Cyffin a Chatrin ferch Maredudd o Abertanad hefyd yn cynnwys tipyn o frodwaith arnynt. Dywed am y pwrs gan Rhisiart Cyffin:

Alwar mawr o liwiau’r main 
Nis brodiai Ynys Brydain, 
Ysgrepan o sidan Siêb 
 sinobl dros ei wyneb, 
alwar mawr o liwiau’r gleiniau
na allai neb yn Ynys Prydain ei brodio,
ysgrepan wedi ei gwneud o sidan o Siêp
a chanddi liw gloywgoch dros ei hwyneb,

(cerdd 58.51-54)


Ac mae hefyd yn cyfeirio at frodwaith aur ar y pwrs (cerdd 58.40). Awgrymir ymhellach gan Guto, Nis brodiai Ynys Brydain, mai pwrs wedi ei fewnforio ydyw. Felly hefyd y pwrs gan Gatrin; meddai:

Pwrs hywerth, Paris wead, 
Prennol aur nis prynai’r wlad. 
pwrs gwerthfawr, gweadwaith o Baris,
cas aur na allai’r fro gyfan ei brynu.

(cerdd 87.23-4)


Defnyddir y ddelwedd tyrau goldwir i ddisgrifio’r pwrs hwn (cerdd 87.53), hynny yw, mae’r edau aur ar y pwrs fel tyrau. Roedd pyrsau ac arnynt frodwaith fel hyn yn boblogaidd iawn yn Ffrainc ac roedd trefi fel Paris a Chaen yng ngogledd Ffrainc yn enwog am eu cynhyrchu. Ond mae Guto hefyd yn awgrymu bod Catrin ei hun wedi rhoi brodwaith ar y pwrs. Meddai:

Amner yw hwn mewn aur rhudd 
A frodies merch Faredudd, 
Calennig haul y waneg, 
Catrin, dwf caterwen deg. 
Amner yw hwn a frodiodd merch Maredudd
mewn aur coch,
calennig gan haul y pryd a’r gwedd, Catrin,
twf derwen fawr deg.

(cerdd 87.9-12)


Ac ymhellach:

Adafedd, lloer Dafydd Llwyd, 
A droes Dyfr ar draws deufrwyd. 
Dirwynodd Dyfr edafedd ar draws
dau ffrâm frodio, lloer Dafydd Llwyd.

(cerdd 87.63-4)


Mae’n bosibl mai mai llun o rosyn aur oedd un o’r delweddau a frodiwyd ar y pwrs wrth i Guto nodi Mae rhos aur ar fy mhwrs i ‘mae llun o rosod aur ar fy mhwrs i’ (cerdd 87.48). Meddai Haycock ‘Brodiwyd y pwrs gan Gatrin ei hun: eitemau mân fel clustogau, pyrsau, coleri a gwregysau a lunnid gartref yn bennaf erbyn y bymthegfed ganrif’.[4]

Bibliography

[1]: Gw. e.e. Rh. Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005), 11.27 a’r nodyn esboniadol, a R. Geuter, 'The silver hand: needlework in early modern Wales’, yn M. Roberts & S. Clarke (eds), Women and Gender in Early Modern Wales, (Cardiff, 2000), 159-85.
[2]: M. Haycock, ‘Defnydd hyd ddydd brawd: rhai agweddau ar y ferch ym marddoniaeth yr oesoedd canol’, yn G.H. Jenkins (ed.), Cymru a’r Cymry 2000 (Aberystwyth, 2001), 41-70.
[3]: D.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), 28.61.
[4]: M. Haycock, ‘Defnydd Hyd Ddydd Brawd: rhai agweddau ar Ferched ym Marddoniaeth yr Oesoedd Canol’, Cymru a’r Cymry 2000 (Aberystwyth, 2001), 55.
<<<Ffwr      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration