databas cerddi guto'r glyn

Ffwr


Addurnid gwisgoedd â ffwr, boed ar ymyl y wisg neu fel leinin, a daeth hyn yn arwydd gweledol o statws uchelwrol. Y gair a welir am ffwr yn y farddoniaeth gan amlaf yw gra, sef gair a ddaw o’r Saesneg gris (neu o’r Hen Ffrangeg), ‘a type of grey fur’.[1] Fodd bynnag, daeth i olygu ffwr yn gyffredinol erbyn y bymthegfed ganrif.

Roedd ffwr gwyn yn arbennig o ddrud gan nad oedd mor gyffredin â hynny, yn enwedig ffwr wedi ei wneud o gôt aeafol y carlwm neu o ffwr mynfyr. Roedd ffwr gwyn yn cael ei ddefnyddio yn arbennig i addurno ymylon gynau merched. Mae Guto’r Glyn yn disgrifio Elen ferch Robert Pilstwn mewn gwisg wedi ei haddurno â ffwr gwyn:

Elen deg o Lëyn dir: 
Gwraig, oedd yn gwisgo gra gwyn, 
Gruffudd, ben-llywydd Llëyn. 
Elen deg o ardal Llŷn:
gwraig i Ruffudd prif lywydd Llŷn
a wisgai ffwr gwyn.

(cerdd 53.26-8)


Darlunnir menywod a dynion yn gwisgo dillad wedi eu leinio â ffwr gwyn er mwyn dangos eu bod o statws uchel mewn delweddau cyfoes o lawysgrifau. Roedd ffwr hefyd yn nodi gwisg o fewn rhyw swyddogaeth arbennig, yn enwedig capiau ffwr neu pân, gw. Penwisgoedd.

Bibliography

[1]: ‘The Oxford English Dictrionary’, s.v. gris.
<<<Damasg      >>>Brodwaith
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration