databas cerddi guto'r glyn

Gwlân


Un o brif ddefnyddiau’r cyfnod yng Nghymru oedd gwlân. Roedd cynhyrchu gwlanen Gymreig yn ddiwydiant sefydlog ers sawl canrif oherwydd yr abatai, ond ymddengys mai yn ystod y bymthegfed ganrif y daeth yn ddiwydiant gwerth ei halen (ymhellach gw. Byd Amaeth: Anifeiliaid). Daeth canolbarth Cymru yn arbennig yn bwysig o ran cynhyrchu gwlanen yn sgil y datblygiad cyflym o ran y diwydiant gwlân yn nhrefi’r gororau, fel Croesoswallt ac Amwythig.
Craftmen making woollen clothing in the mansucript 'Tacuinum Sanitatis'.
Craftmen working with wool
Click for a larger image

Hynodrwydd gwlanen yw ei hyblygrwydd gan fod modd cynhyrchu pob math o bethau ohono. Ond yn gyffredinol cysylltid gwisgoedd megis peisiau, trywsusau, hosanau a chlogynnau â gwlanen gartref (eitemau o ddillad. Wedi i’r ffermwr werthu ei wlân, eid ati i'w bannu a'i nyddu. Proses o lanhau a thewhau’r brethyn wrth ei guro a’i olchi yw pannu a thrwy wneud hynny am amser hir byddai’r gwlân yn cael ei ‘ffeltio’ ac felly’n aros yn weddol sych yn y glaw. Dibynnai ansawdd gorffenedig brethyn gwlanog ar ansawdd crai’r gwlân a hefyd ar y broses hon.[1]

Mae’r farddoniaeth yn ddrych i’r holl gamau hyn a chyfeirir yn achlysurol at wrthrychau a ddefnyddid hefyd (gw. e.e. cerdd 24.43). Dywed Guto’r Glyn am y ffaling a gafodd gan Elen ferch Robert Pilstwn fod y ‘pannu wedi ffynnu’ (cerdd 53.62), sef bod y broses wedi llwyddo yn achos y fantell arbennig hon o gnu Gwyddelig, a gwyddom ar sail cyfeiriadau eraill at fentyll Gwyddelig] eu bod yn wych am wrthsefyll y glaw.

Y diwydiant gwlân yw cefndir y cerddi rhwng Guto’r Glyn a Thudur Penllyn hefyd. Yn ateb Tudur Penllyn i gywydd porthmona Guto’r Glyn, honodd Tudur Penllyn i Guto’r Glyn gadw’r arian am werthu gwlân ŵyn Syr Bened yn ystod ei daith i borthmona’r ŵyn i Loegr (cerdd 44a). Bu’r ŵyn farw yn ôl Guto’r Glyn, ond yn ôl Tudur roeddynt yn fyw o hyd a disgrifir eu gwlân gwerthfawr:

‘Maent yn fyw, mintai ŵyn falch, 
Mae gwlân, defnydd rhag annwyd, 
Brethyn llawn brithwyn llwyd; 
Mae ’mhell, ei dröell a dry, 
A’i gribwraig yn Lloegr obry.’ 
‘Maen nhw’n fyw, gyr urddasol o ŵyn,
mae gwlân, defnydd rhag annwyd,
brethyn cyflawn brychwyn a llwyd;
mae’n bell i ffwrdd, mae ei dröell yn troi,
a’i gribwraig yn Lloegr isod.’

(cerdd 44a.50-54)


Gwlanen lefn a meddal oedd yr un orau ei hansawdd, un wedi ei lliwio’n dda a’i thrin yn ofalus. Hon a wisgid gan uchelwyr a byddai brodwaith arni yn fynych.

Brethyn tewban cyrliog oedd ffris a mwy addas i gynhyrchu blancedi neu wisgoedd gaeafol. Dyma’r defnydd a ddefnyddid i addurno ymylwe’r ffaling a gafodd Guto gan noddwr::Elen ferch Robert Pilstwn (cerdd 53.50), er ei fod yn cael ei ddefnyddio i wneud gwisgoedd cyfan hefyd. Mae Guto’n disgrifio côt fras y milgwn y gofynnir amdanynt ar ran Sieffrai Cyffin fel Milgwn Ffrainc mal gynau ffris, ‘milgwn o Ffrainc fel gynau o frethyn blewog’ (cerdd 100.47) a cheir llu o ddisgrifiadau o’r ffris hwn gan feirdd eraill hefyd.

Y brethyn gwaethaf o ran ansawdd a gynhyrchid o wlanen oedd yr hyn a elwir yn carth, sef brethyn garw a wneid o weddillion cywarch ac a gysylltid yn bennaf â’r werin bobl. Defnyddir carth yn gyson mewn cerddi dychanol. I ddychanu Dafydd ab Edmwnd dywedodd Guto’r Glyn fod crys carth amdano, gw. cerdd 66.53.

Bibliography

[1]: J.G. Jenkins, Melinau Gwlân: crynodeb o ganes y Diwydiant Gwlân yng Nghymru, (Llanrwst, 2005)
>>>Sidan
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration