databas cerddi guto'r glyn

Byrddau a meinciau


Y bwrdd tâl
Tretower is a medieval hall-house.
The interior of Tretower
Click for a larger image

Bwrdd trestl hir oedd y bwrdd tâl a caiff ei alw’n hynny gan ei fod wedi ei leoli ym mhen draw y neuadd. Gan amlaf, codwyd y bwrdd hwn yn uwch na lefel llawr y neuadd, ar lwyfan bychan, i amlygu ei statws ymhellach ac roedd y rhai a eisteddai wrtho o statws uwch na’r rhai a eisteddai wrth y byrddau eraill.

Wrth y bwrdd hwn yr eisteddai’r uchelwr a’i deulu ac unrhyw westeion pwysig eraill. Eisteddai gweddill y gwesteion wrth y byrddau eraill yn nhrefn eu statws gymdeithasol. Rhoddid y rhai o’r dosbarth cymdeithasol uchaf, neu rai yr oedd ganddynt gysylltiad gryf â’r teulu, i eistedd yn agosaf at y bwrdd tâl.

Mae cyfreithiau Cymreig yr Oesoedd Canol cynharach yn nodi bod y bardd teulu a’r pencerdd yn eistedd mewn lleoedd penodol yn y neuadd, y naill nesaf at gapten y gwarchodlu a’r llall nesaf at yr ynad llys neu’r offeiriad.[1] Er na wyddom yn union ym mhle’r eisteddai’r beirdd yn ystod y wledd erbyn amser Guto’r Glyn, confensiwn yn y farddoniaeth yw dweud eu bod yn eistedd gerllaw’r bwrdd tâl, fel y dywed Guto yn ei foliant i Siancyn Hafart o Aberhonddu:

Y saethau aur a saethych 
Yw rhoddion y gweision gwych; 
Dy nodau dianwadal – 
Dy feirdd teg ar dy fwrdd tal. 
Y saethau aur rwyt ti’n eu saethu
yw rhoddion y gweision ysblennydd;
dy dargedau dianwadal
yw dy feirdd teg wrth dy fwrdd uchel.

(cerdd 31.49-52)


Roedd y bwyd a weinid ar y bwrdd tâl ychydig yn fwy arbennig, gyda bwydydd creadigol megis pen baedd, paun neu alarch yn ganolbwynt iddo. Yn wir, yn y farddoniaeth daeth bwrdd yn air a ddefnyddid yn drosiadol am y wledd ei hun, gan bwysleisio haelioni’r noddwr gyda’i ddarpariaeth o fwyd (gw. cerdd 111.31-2, cerdd 8.3-4). At hynny, mae’r noddwr ei hun yn cael ei alw’n fwrdd tâl, fel y gwelir wrth i Guto’r Glyn foli Dafydd Llwyd ap Dafydd o’r Drenewydd, A bwrdd tâl y beirdd wyt ti (cerdd 37.68).

Prin iawn yw’r byrddau o’r bymthegfed ganrif sydd wedi goroesi hyd heddiw, ond ceir enghreifftiau o fyrddau trestl o gyfnod ychydig yn ddiweddarach.[2] Mae’r llwyfan a ddefnyddid i godi’r bwrdd tâl i’w weld o hyd mewn rhai tai neuadd, megis yng Nghochwillan. Yng Nghochwillan hefyd, fe ymddengys fod canopi bren wedi ei hadeiladu fel to bychan uwchben y llwyfan (gw. Gwneuthuriad: Pren).

Meinciau
Dodrefnyn arall ar y llwyfan oedd mainc fawr. Roedd hon wedi ei lleoli y tu ôl i’r bwrdd ac wedi ei gosod â bachau yn y wal a oedd yn rhannu’r neuadd ac ystafell bersonol y teulu.
Chair of Sir Rhys ap Tomas
Chair of Sir Rhys ap Tomas
Click for a larger image
Byddai’r rhai a eisteddai yma felly’n wynebu’r gwesteion. Meinciau a ddefnyddid hefyd ar gyfer gweddill y gwesteion.

Anfynych iawn y gwelid cadeiriau mewn tai canoloesol. Ystyr ffigurol yn aml sydd i’r gair cadair yn y farddoniaeth gan fod y term hefyd yn golygu ‘cân, mesur’ yn ogystal â ‘gorsedd, arglwyddiaeth’ neu ‘gadair farddol’.[3] Yn raddol daeth hi’n arferol i’r penteulu eistedd ar gadair hardd wrth y bwrdd tâl yn y tai mwyaf cyfoethog. Mae dwy gadair arbennig wedi goroesi o ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg sy’n enghreifftiau godidog o ddodrefn Tuduraidd. Perthynai’r ddwy ar un adeg, fe ymddengys, i Syr Rhys ap Thomas, noddwr a ddisgrifiwyd gan Guto’r Glyn fel uchelwr cadarn pan oedd yn ŵr ifanc yn byw yn Abermarlais (Trawst ... tros y tair sir, cerdd 14.21). Mae’r cadeiriau i’w gweld bellach yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, ond daethant yno o Ddinefwr. Roedd cadeiriau panel o dderw fel yr rhain yn fodd i arddangos arfbais y teulu hefyd, fel nifer fawr o ddodrefn derw eraill o’r cyfnod hwn.[4]



Bibliography

[1]: D. Jenkins, ‘Bardd Teulu and Pencerdd’, yn T.M. Charles-Edwards, M.E. Owen and P. Russell (eds), The Welsh King and his Court, (Cardiff, 2000), 142-66 (147, 152) a gw. hefyd Glossary, 571.
[2]: R. Bebb, Welsh furniture, 1250-1950: a cultural history of craftsmanship and design, Vol. 1 (Aberystywth, 2007), 118.
[3]: Geiriadur Prifysgol Cymru, d.g. cadair, 375.
[4]: M.P. Siddons, The Development of Welsh Heraldry: Vol 3 (Aberystwyth, 1993), 70.
>>>Cypyrddau
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration