databas cerddi guto'r glyn

Tai tŵr a neuaddau llawr-cyntaf

Tretower is a medieval fortified courtyard house.
Plan of Tretower
Click for a larger image

Roedd y rhan fwyaf o dai’r bymthegfed ganrif yn dai neuadd, gyda neuadd unllawr a adeiladid o bren fel arfer. Ond roedd neuaddau llawr-cyntaf, a adeiladid o garreg yn bennaf, yn gyffredin yn ne a gorllewin Cymru, yn enwedig Sir Benfro, ac mae ychydig o enghreifftiau yn y gogledd a’r dwyrain yn ogystal.[1] Mae Llyseurgain yn Llaneurgain yn goroesi hyd heddiw, ac ymddengys hefyd fod Bodychen ym Môn wedi cynnwys y brif ystafell fyw ar y llawr cyntaf.

Roedd nodweddion amddiffynnol ar rai neuaddau llawr-cyntaf, a gelwir y rhai cryfaf yn dai tŵr. Mae’r rhain, hefyd, yn arbennig o gyffredin yn ne a gorllewin Cymru, er bod rhai enghreifftiau pwysig yn y gogledd. Ffaith ddiddorol a nodwyd gan Smith yw fod tai tŵr deheuol Cymru yn perthyn i deuluoedd o darddiad Eingl-Normanaidd a’r rhai gogleddol i uchelwyr brodorol.[2]

Nid yw’r Tŷ Gwyn yn Abermaw, ail gartref Gruffudd Fychan ap Gruffudd, yn bodoli bellach, ond mae tystiolaeth un o gerddi Tudur Penllyn yn awgrymu ei fod yn dŷ tŵr tebyg i’r un sy’n goroesi ym Mroncoed, Yr Wyddgrug (‘Y Tŵr’). Cyfeiria’r bardd at y Tŷ Gwyn fel tŵr sawl gwaith a chrybwyllir ei dair annedd ‘tri llawr’, gan nodi hefyd fod ei neuadd yn Nes i’r heulwen no’r seler.[3] Mae’n debygol fod gan y tŷ hwn neuadd uwchben llawr isaf a seler, cynllun a geir hefyd yn ‘Y Tŵr’ (ac yn Llyseurgain).[4]

Mae’n debyg mai tŷ tŵr, hefyd, oedd Colbrwg, cartref Syr Rhisiart Herbert, yn ôl cerdd o waith Guto’r Glyn sy’n crybwyll ei dŵr, wedi ei wneud o frics uchel (cerdd 22.3-4, a gw. Gwaith maen). Cafodd y Penrhyn, cartref Wiliam Fychan ap Gruffudd, ei gryfhau yn ystod oes Guto ac fe all mai tŷ tŵr ydoedd, neu dŵr gyda neuadd wrth yr ochr i greu ystafell fyw arall (nid oes rhyw lawer yn goroesi o’r cyfnod hwn o fewn y castell modern). Mae’n bosibl hefyd fod gan Fodidris, cartref Dafydd Llwyd ap Tudur, neuadd yn ogystal â thŵr cyn iddo gael ei ailadeiladu yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg.[5]

Roedd tŵr yn Y Drefrudd hefyd, cartref Syr Siôn Bwrch a’i wraig Siân Bwrch. Ond nid yw’n eglur a oedd y neuadd a grybwyllir yng ngherdd Guto i Siân (cerdd 81.9) yn ystafell lawr-cyntaf yn yr adeilad hwn neu, yn hytrach, yn adeilad ar wahân.[6] Diddorol yw disgrifiad Guto o’r llys fel Tŵr Gwyn Llundain yn ei gywydd mawl i Syr Siôn, a gall mai cyfeirio at dŵr y tŷ a wneir:

Trwsio’r wyf tros yr afon, 
Trof iso’r sir, tref Syr Siôn, 
I’r Tŵr Gwyn â’r trugeinwyr 
A’r tai lle mae Gwalchmai’r gwŷr; 
Tecáu yr wyf dros yr afon
gartref Syr Siôn, af i’r sir isod,
i’r Tŵr Gwyn gyda’r trigain gŵr
a’r tai lle mae Gwalchmai’r gwŷr;

(cerdd 80.23-6)


Mae’n bosibl fod y tŵr yn Y Drefrudd wedi’i wyngalchu, fel yr oedd llawer o adeiladau canoloesol. Cyfeiria Tudur Penllyn, er enghraifft, at grys o galch yn ei gerdd i’r Tŷ Gwyn, Abermaw.[7]

Tretower is a 15th century hall-house.
The hall in the north range at Tretower
Click for a larger image
Mae Tretŵr, a roddwyd gan Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro, i’w hanner brawd, Syr Rhosier Fychan, yn blasty sydd wedi goroesi’r canrifoedd a chadw ei gymeriad canoloesol yn berffaith.[8] Roedd Syr Rhosier yn byw yno erbyn 1457 ac mae’n debyg mai ef oedd yn gyfrifol am ail-lunio’r rhes ogleddol, gan gynnwys newid y neuadd unllawr wreiddiol yn neuadd lawr-cyntaf. Ehangodd y tŷ hefyd, gan adeiladu rhes orllewinol newydd a oedd yn cynnwys neuadd fawr arall, yn agored i’r to. Yn ddiweddarach yn y bymthegfed ganrif ychwanegwyd muriau i greu cwrt neu wart sgwâr, ynghyd â phorthdy sy’n debyg i dŵr. Mae maint y tŷ yn adlewyrchu pwysigrwydd cymdeithasol a gwleidyddol y teulu, ac mae’n debyg mai symbolau statws, mewn gwirionedd, oedd ei nodweddion ‘amddiffynol’. (Gw. gwefan Tretower Court and Castle.)

Llawer mwy mawreddog yw Tŵr Mawr castell Rhaglan, a adeiladwyd gan Syr Wiliam ap Tomas, tad Wiliam Herbert. Byddai’r tŵr hwn, yr oedd ganddo bum llawr yn wreiddiol, yn addas iawn fel cadarnle milwrol er ei fod yn symbol statws hefyd, y gellid ei weld o bell.[9] Nid yw’n rhyfedd fod Guto’n cyfeirio at ei uchder mewn cerdd i Syr Wiliam ap Tomas:

Uchel yw’r llys uwchlaw’r llaill, 
A’ch tŵr uwch y tai eraill. 
Uchel yw’r llys uwchlaw eraill
a’ch tŵr yn uwch na gweddill yr adeiladau.

(cerdd 19.47-8)


Defnyddid tyrau a nodweddion amddiffynnol eraill a oedd ar dai a chestyll yn ffigurol gan feirdd wrth ddisgrifio eu noddwyr, a’r ddelweddaeth hon yn awgrymu nerth ac awdurdod. Yn ei farwnad i Robert Trefor ab Edward o Fryncunallt, dywed Guto fod tad Robert, Edward ap Dafydd, yn gastell i Drefor a’i bedwar mab yn dyrau mawr (cerdd 105.9-10). Aiff ymlaen i ddatblygu’r ddelwedd gan ddweud bod Robert ei hun yn dŵr abl ‘tŵr nerthol’ ac yn dŵr y porth uwch tyrau pert (cerdd 105.15-16). Gallai beirdd gyfeirio at dŷ fel ‘tŵr’ ffigurol hefyd, er mwyn canmol ei uchder a’i gryfder. Er enghraifft, gan na chredir bod tai tŵr i’w cael yn y Canolbarth, rhaid amau mai trosiadol yw cyfeiriadau Guto at Y Faenor fel Tŵr i bennaeth tir Beuno (cerdd 38.30) ac at gartref Syr Siôn Mechain yn Llandrinio fel tŵr i ymladd (cerdd 85.37).

Bibliography

[1]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1975 & 1988), 21-2, 135-7.
[2]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1988), 136.
[3]: T. Roberts, Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap Tudur Penllyn (Caerdydd, 1958), cerdd 16, yn enwedig llinellau 23-6.
[4]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1975 & 1988), 135-6; P. Smith & P. Hayes, ‘Llyseurgain and The Tower’, Flintshire Historical Society, 22 (1965-6), 1-8.
[5]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1975 & 1988), 136.
[6]: J.J. West, ‘Wattlesborough Tower, Alberbury’, The Archaeological Journal, 138, (1981), 33-4; J.B. Smith, ‘Mawddwy’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff, 2001), 165.
[7]: T. Roberts, Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap Tudur Penllyn (Caerdydd, 1958), 16.13.
[8]: C.A.R. Radford, ‘Tretower, the Castle and the Court’, Brycheiniog, XI (1960), 1-50.
[9]: J.R. Kenyon, Raglan Castle (Cardiff, 2003), 49-53.
<<<Tai neuadd      >>>Cynllun
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration