databas cerddi guto'r glyn

Cleddyfau


Roedd cleddyfau yn arfau pwysig drwy’r Oesoedd Canol, a chaent eu defnyddio nid yn unig gan filwyr ond hefyd yn fwy cyffredinol ar gyfer hunanamddiffyn. Roedd cleddyfau’r bymthegfed ganrif yn anhyblyg ac yn daprog fel arfer, gyda phwyntiau miniog a chaled fel y gallent drywanu rhwng platiau arfwisg.[1] Roedd y rhan fwyaf o faint cymedrol, ond roedd hefyd rai cleddyfau mawr iawn a’u carnau wedi eu hestyn fel y gellid defnyddio’r ddwy law i daro ergyd. Defnyddid cleddyfau at ddibenion seremonïol yn aml ac roedd iddynt arwyddocâd crefyddol, hyd yn oed, a atgyfnerthid gan ffurf y carn a oedd yn debyg i groes. Ceir nifer o gyfeiriadau gan y beirdd at noddwyr yn derbyn cleddyf wedi ei addurno ag aur wrth gael eu hurddo’n farchogion, megis yng nghywydd Guto i Syr Rosier Cinaston o’r Cnwcin:

Euro’i wregis cyn mis Mai, 
Euro’i gledd a ryglyddai. 
Haeddai euro’i wregys cyn mis Mai,
ac euro’i gledd.

(cerdd 79.63-4)


Crybwyllir cledd neu gleddyf yn bur aml yng ngherddi Guto. Mae nifer o’r cyfeiriadau hyn yn rhai ffigurol, a’r cleddyf yn cynrychioli’r noddwr ei hun, fel yn achos cywydd Guto i Ddafydd Mathau o Landaf: Agoriad wyd ar Gaerdyf / A’i chlo addwyn a’i chleddyf (cerdd 17.9-10). Mewn cerddi eraill ceir cleddyf yn symboleiddio doniau milwrol noddwr. Yn ei gywydd i Siôn Talbod, ail iarll Amwythig, cyfeiria Guto at wyargledd sias y noddwr, sef ei ‘gleddyf gwaedlyd mewn brwydr’ (cerdd 78.2), a syniad cyffredin ymhlith y beirdd oedd bod cleddyf yn ennill clod i’w berchennog, fel yn achos cerdd Guto i Phylib ap Gwilym Llwyd o Drefgunter:

Dawn i’m eryr dwyn mawredd, 
A dwyn clod o dynnu cledd, 
mae gan fy eryr y ddawn o ddwyn ysblander,
a dwyn canmoliaeth o dynnu cleddyf,

(cerdd 30.59-60)


Cyfeiria Guto at ei gleddyf ei hun mewn nifer o gerddi. Wrth ateb dychan Llywelyn ap Gutun cyhuddodd y bardd arall o chwennych ei glog a’i gledd (cerdd 65.40), ac yn ei gerdd i ddiolch i Risiart Cyffin, deon Bangor, am bwrs mae’n crybwyll y ffaith fod y pwrs yn cael ei wisgo uwchben ei gleddyf (cerdd 58.56). Yn yr un modd, dywed Guto yn ei gerdd i ddiolch am fwcled ei fod yn gwisgo’r darian fach hon ar wain neu garn ei gleddyf (cerdd 110.50). Defnyddid cleddyfau a bwcledi gyda’i gilydd yn aml, felly mae’n ddigon naturiol fod cleddyf Guto yn cael ei grybwyll nifer o weithiau yn y gerdd hon - dywed, hyd yn oed, y byddai’n hoffi cael y ddau arf wedi’u cerfio ar ei garreg fedd (cerdd 110.63-6). Mae defnydd Guto o’r geiriau byr gledd ac ysgïen (gair a ddefnyddid am gyllell neu gleddyf byr) yn awgrymu bod yr arf hwn yn gymharol fach ac ysgafn (cerdd 110.43 a 59).

Roedd cleddyfau ysgafn yn cael eu gwisgo’n aml yn y cyfnod hwn fel ategolion ‘pob dydd’ ar gyfer hunan-amddiffyniad ac fel symbolau o statws, felly nid yw’n syndod fod gan Guto arf o’r fath. Mae’n bosibl hefyd ei fod wedi ymladd â chleddyf yn ystod ei wasanaeth milwrol yn Ffrainc (gw. Guto’r Glyn), fel y gwnâi saethwyr proffesiynol eraill.[2]

(Seiliwyd y drafodaeth uchod ar yr ymdriniaeth fanylach yn: J. Day, ‘ “Arms of Stone upon my Grave”: Weapons in the Poetry of Guto’r Glyn’, yn B.J. Lewis, A. Parry Owen and D.F. Evans (eds), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Essays on Guto’r Glyn and Fifteenth-Century Wales (Aberystwyth, 2013).)

Bibliography

[1]: K. DeVries, Medieval Military Technology (Hadleigh, 1992), 24-5, ac E. Oakeshott (1964), The Sword in the Age of Chivalry (Woodbridge, 1964).
[2]: A. Curry, Agincourt: A New History (3rd edition, Stroud, 2010), 71 and 255; A. Curry, ‘Guns and Goddams: was there a military revolution in Lancastrian Normandy 1415-50’, Journal of Medieval Military History, 8 (Woodbridge, 2010), 171-88 (179-80), ac A.W. Boardman, The Medieval Soldier in the Wars of the Roses (Stroud, 1998), 136-7.
<<<Gwaywffyn      >>>Tarianau
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration