databas cerddi guto'r glyn

Tarianau


Daeth defnydd tarianau yn llai cyffredin ar faes y gad yn y bymthegfed ganrif, yn sgil gwelliannau yn effeithlonrwydd arfwisg. Nid yw’n syndod, felly, nad yw’r offer hyn yn cael eu crybwyll mor aml gan Guto’r Glyn, wrth foli ei noddwyr, ag y maent mewn barddoniaeth gynharach.[1] Ceir y gair tarian ganddo nifer o weithiau, fodd bynnag, sef y gair mwyaf cyffredin am darian yn yr Oesoedd Canol, a hefyd aes neu aesawr, a geid yn aml yn yr hen farddoniaeth. Defnydd trosiadol o aesawr a geir mewn cerdd moliant i Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, lle cymherir y noddwr i sŷr aesawr (‘sêr [ar] darian’, cerdd 14.39), ac mewn cywydd arall mae Guto yn disgrifio Siôn Talbod, ail iarll Amwythig, fel baedd dur aesawr (‘baedd tarian ddur’, cerdd 78.47). Pwrpas y cyferiadau hyn yw canmol ymddangosiad gwych, dewrder a chryfder y noddwr, ond ceir math gwahanol o drosiad yng nghywydd moliant Guto i Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, a’r darian yn cael ei chymharu â’i galon lon lân:

Moes weithian y darian dau 
I’w dwyn lle bu dy ynau. 
Nid erchi rhoddi rhuddaur, 
Nid tarian arian neu aur; 
Erchi dy galon lon lân, 
Arglwydd rhywiawglwydd Rhaglan; 
Un waith ydiw calon wych 
 tharian o waith eurych. 
Dyro ’nawr dy darian di
i’w dwyn lle gwisgid gynt dy ynau.
Nid gofyn yr wyf am roi aur coch,
nid tarian arian neu aur;
gofyn am dy galon lawen bur,
arglwydd bonheddig ffyniannus Rhaglan;
o’r un gwneuthuriad y mae calon wych
â tharian a wnaed gan eurych.

(cerdd 19.31-8)


This buckler dates from about 1540 and is from the Wrexham area.
A buckler (round shield)
Click for a larger image
Mae gan y darian hon arwyddocâd pellach fel symbol o ffafr y noddwr, a hynny mae’n debyg yn gysylltiedig â’r arfer o ddefnyddio tarian i ddangos arfbais herodrol (gw. Diddordebau Uchelwr: Statws a Herodraeth).

Math arbennig o darian a oedd yn boblogaidd yn amser Guto oedd y bwcled (Saesneg ‘buckler’). Roedd y bwcled Cymreig yn darian fach gron a wneid o ledr wedi’i atgyfnerthu â haearn neu efydd ac a ddefnyddid yn aml wrth ffensio, gan gael ei dal yn y llaw chwith gyda’r cleddyf yn y llaw dde.[2] Ceir cyfeiriadau niferus at fwcledi yng nghanu gofyn a diolch y beirdd, a chanodd Guto’r Glyn yntau gywydd i ddiolch am fwcled a gafodd yn rhodd gan yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes (cerdd 110).

Mae disgrifiad Guto o’r bwcled yn fanwl iawn.[3] Cyfeirir nifer o weithiau at ei ffurf gron, gan ei alw’n olwyn (cerdd 110.25), yn ddrych (27), yn grondorth (44), yn lleuad (51) ac yn ddesgl (26). Mae’n fychan (39) ac mae bwlyn yn ei ganol, a thu ôl i’r bwlyn hwnnw mae lle clyd i’r llaw afael ynddo:

Mae lle nyth i’m llaw yn ôl, 
Maneg wen mewn ei ganol, 
Annedd i’m bysedd a’m bawd 
Ar gefn dwrn rhag ofn dyrnawd. 
Mae lle fel nyth yn y cefn ar gyfer fy llaw,
maneg wen yn ei ganol,
preswylfan ar gyfer fy mysedd a’m bawd
ar gefn y dwrn rhag ofn ergyd.

(cerdd 110.29-32)


Disgrifia Guto’r bwcled fel clwyd ddur (22) ac fel gwaith gwe fraith y gof (‘plethwaith cymysgliw’r gof uchod’, 24). Mae’n ymddangos bod y patrwm rhwyllog hwn wedi’i ffurfio gan dri chylch (27) a chan y breichiau sy’n croesi trostynt wrth ymledu o ganol y bwcled fel pelydr haul (33-4). Crybwyllir hoelion niferus y bwcled hefyd, a cheir disgrifiad o’i wneuthuriad yng ngweithdy’r gof:

Pennau ei freichiau o’i fron,  
Pelydr haul, plaid yr hoelion: 
Pob gordd yn pwyaw heb gam 
Pricswn y siop o Wrecsam. 
Pennau ei freichiau yn ymestyn o’i fynwes,
pelydr haul, tyrfa o hoelion:
pob gordd yn taro’n ddi-fai
nodau cerdd y siop o Wrecsam.

(cerdd 110.33-6)


Gwyddys bod ardal Wrecsam a Rhiwabon yn bwysig iawn fel canolfan ar gyfer cynhyrchu bwcledi yn y cyfnod o c.1440 i 1580, a châi’r bwcledi hyn eu hallforio i Lundain a llefydd eraill, mae’n debyg, yn ogystal â’u defnyddio yng Nghymru.[4] Canmolir crefft gwneuthurwyr bwcledi mewn cerddi eraill hefyd a chrybwyllir enw un gof yn arbennig, sef Ieuan ap Deicws o Riwabon.[5]

Yn ei gerdd ddiolch yntau am fwcled mae Guto’n cyfeirio nifer o weithiau at ei gleddyf. Mae’n sôn am gario’r bwcled ar wain neu garn ei gleddyf (50) ac, wrth orffen y cywydd, dywed yr hoffai gael y bwcled a’r cleddyf wedi’u cerfio ar ei fedd, hyd yn oed:

Mae Adda Fras ym medd fry, 
Minnau ’n Iâl mynnwn wely 
A’m bwcled a’m bywiocledd 
Yn arfau maen ar fy medd. 
Mae Adda Fras mewn bedd uchod,
minnau yn Iâl y dymunwn wely
a’m bwcled a’m cleddyf bywiog
yn arfau maen ar fy medd.

(cerdd 110.63-6)


Roedd crybwyll bwcled a chleddyf gyda’i gilydd yn thema cyffredin arall yn y canu gofyn a diolch, ac yn wir un dull o gyflwyno’r cais am rodd oedd dweud bod cleddyf ym meddiant y bardd neu’r noddwr yn barod ond bod angen bwcled i fynd gydag ef.[6]

Gellir gweld tebygrwydd hefyd yn nulliau gwahanol feirdd o ddisgrifio neu ddyfalu siâp a disgleirdeb bwcledi a’u gwahanol nodweddion a gosodiadau.[7]

Bibliography

[1]: J. Day, ‘Shields in Welsh poetry up to c.1300: decoration, shape and significance’, Studia Celtica, xlv (2011), 27-52; ac am y tarianau yng ngherddi Guto gw. ymhellach J. Day, ‘ “Arms of Stone upon my Grave”: Weapons in the Poetry of Guto’r Glyn’, yn B.J. Lewis, A. Parry Owen and D.F. Evans (eds), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Essays on Guto’r Glyn and Fifteenth-Century Wales (Aberystwyth, 2013).
[2]: I. Edwards and C. Blair , ‘Welsh Bucklers’, The Antiquaries Journal, 62 (1982), 74-115 (80, 100-1).
[3]: Gw. nodiadau esboniadol Ann Parry Owen, cerdd 110.
[4]: Edwards and Blair , ‘Welsh Bucklers’, 90.
[5]: T.G. Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926), cerdd CXV, ac E. Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel (Caerdydd, 1984), cerdd rhif 20.
[6]: Gw. E. Bachellery (éd.), L’oeuvre poétique de Gutun Owain (Paris, 1950-1), cerdd XIV.
[7]: B.O. Huws, Y Canu Gofyn a Diolch c.1350-c.1630 (Caerdydd, 1998), 174-77, a gw. hefyd Edwards and Blair , ‘Welsh Bucklers’, 74-115.
<<<Cleddyfau      >>>Gynnau
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration