databas cerddi guto'r glyn

Gwaywffyn


Roedd y waywffon, sef arf hirfain o bren â blaen pigog o haearn neu ddur, yn parhau i gael ei defnyddio ar faes y gad yn ystod y bymthegfed ganrif fel yr oedd am ganrifoedd cyn hynny.
A man holding a spear in a Welsh text of the Laws of Hywel Dda, NLW MS 20143A, f.41r, 14th century.
A man with a spear
Click for a larger image
Bu’r beirdd yn hoff iawn o grybwyll gwaywffyn yn eu cerddi drwy gydol yr Oesoedd Canol a defnyddid nifer o wahanol enwau amdanynt megis gwayw, paladr, dart, pâr, rhôn a glaif (am gyfeiriadau at waywffyn mewn barddoniaeth hyd at c.1300 gw. J.P. Day, 'Arfau yn yr Hengerdd a cherddi Beirdd y Tywysogion' (Ph.D. Cymru (Aberystwyth), 2010), 211-82, 466-74). Yn aml, pren onnen a ddefnyddid i lunio paladr gwaywffon ac adlewyrchir hyn yn y term onwayw a geir yn y farddoniaeth (e.e. cerdd 10.8 a cerdd 51.51) ac yng nghyfeiriad Guto at bâr onwydd (cerdd 48.47). Yn ogystal â defnyddio’r holl dermau eraill am waywffyn a nodir uchod mae gwaith Guto yn rhoi i ni un gair arall am waywffon nad oes unrhyw enghraifft arall ohono wedi’i chofnodi yn y Gymraeg, sef lownsgae, gair benthyg o’r Saesneg ‘lancegay’ sy’n disgrifio math arbennig o waywffon ysgafn (cerdd 78.54).

Pwrpas crybwyll gwaywffon yn aml oedd canmol dawn noddwr i ymosod neu amddiffyn, fel yn achos moliant Guto i Fathau Goch o Faelor, arweinydd milwrol o fri yng ngogledd Ffrainc yn ystod cyfnod olaf y Rhyfel Can Mlynedd:

Gwayw a chorff Mathau Goch hael 
A gyfyd Lloegr a’i gafael. 
Gwaywffon a chorff Mathau Goch hael
a gyfyd Loegr a’i thir etifeddol.

(cerdd 3.11-12)


Weithiau defnyddir ansoddair i ddisgrifio gwaywffon noddwr, megis arf Syr Rhisiart Gethin sy’n wayw uniawn (‘gwaywffon syth’, cerdd 1.23) yn ôl y bardd, neu wewyr hirion (‘gwaywffyn hir’) Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd (cerdd 33.21). Cyfeiria’r bardd at wayw lliwlas yn ei gerdd i Ddafydd ap Tomas o Flaen-tren (cerdd 12.3), ac mewn cerdd arall ceir y gair gwaywlas yn disgrifio Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan (cerdd 55.3). Er ei bod yn wir fod rhai gwaywffyn yn cael eu paentio mewn lliwiau gwahanol (yn enwedig y rhai a ddefnyddid wrth ymwan mewn twrnamaint), mae’n fwy tebygol fod yr elfen glas yn y geiriau hyn yn cyfeirio at liw cynhenid metel pennau’r gwaywffyn, neu at eu disgleirdeb neu liw golau pren y paladr. Yn yr un modd, y tebyg yw bod y lownsgae aur a grybwyllir wrth ganmol Siôn Talbod, ail iarll Amwythig, i’w ddeall fel arf ‘gwych’ yn hytrach nag un wedi ei addurno ag aur go iawn (cerdd 78.54).

Coch yw’r lliw a gysylltir amlaf â gwaywffyn. Cyfeiria Guto at Fathau Goch, er enghraifft, fel Broch a’i bâr coch yn bwrw cant (‘broch a’i waywffon waedlyd yn bwrw i lawr gant o filwyr’, cerdd 3.9). Roedd gwaywrudd (‘gwaywffon goch’ neu ‘un a chanddo waywffon goch’) yn hoff air gan y beirdd wrth ddisgrifio eu noddwyr, ac fe’i ceir gan Guto wrth ganmol Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd (cerdd 32.7) a hefyd Hywel ap Llywelyn Fychan o Lyn Aeron, a elwir yn rhi dewr gwaywrudd (‘arglwydd dewr â gwaywffon goch’, cerdd 10.21). Arwyddocâd y lliw coch, wrth gwrs, yw bod y gwaywffon wedi ei staenio gan waed wrth i’r noddwr ymladd yn ddewr ac yn ffyrnig. Ychwanegir at y syniad hwn mewn cerdd arall lle ceir darlun o’r noddwr (Harri Gruffudd eto) fel rhywun i’w ofni ar faes y gad, a’i waywffon nid yn unig yn goch ond yn ‘goch fel tân’:

Ni baidd neb yn wyneb Nudd 
At Henri â’r gwayw tanrhudd, 
Nid oes neb yn beiddio yn wyneb yr un fel Nudd
ymosod ar Henri â’r waywffon goch fel tân,

(cerdd 33.35-6)


Roedd staen gwaed ar waywffyn yn ddelwedd gyffredin mewn barddoniaeth gynharach, ac felly hefyd y ddelwedd o waywffon ddrylliedig - symbol arall o ffyrnigrwydd ymladd neu o ddewrder a dygnwch unigolyn.[1] Ceir enghreifftiau gan Guto wrth sôn am wayw dau hanner Rhys ap Dafydd o Uwch Aeron (cerdd 11.34) a gallu Syr Water Herbert i dorri gwayw ac i anturio gwŷr (‘herio gwŷr’) (cerdd 27.29).

Defnyddid gwaywffon yn drosiad am y noddwr ei hun yn aml. Dywed Guto, er enghraifft, fod Harri Gruffudd yn wayw ’mrwydr i Gymru (‘gwaywffon ym mrwydr i Gymru’, cerdd 36.39) a disgrifiodd bum mab Llywelyn ap Hwlcyn o Fôn fel pum wayw hirion (‘pum gwaywffon hir’, cerdd 63.63).

Ychydig o wybodaeth a geir yn y cerddi, fel arfer, ynglŷn â sut yr ymleddid â gwaywffyn, ond un eithriad pwysig yw’r gerdd sy’n disgrifio Gruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr o Gollfryn yn ymladd yn erbyn Sais:

Troi blaen gwayw, graen o’i grwm, 
Tua’i fwnwgl, tew fonwm, 
Treiglo’r anfad benadur 
Tros ei farch, pand trawsa’ fur? 
Canu yna, garwa’ gŵr, 
Gri a ‘mersi!’ o’r Marswr. 
Bwrw’r ail, ffyrf gynheiliad, 
Bwrw’r trydydd, cynigydd cad. 
Traethu o’i lu nid oedd lân 
Tristyd uddun’, pand trwstan? 
Pwyntio blaen gwaywffon, ofnadwy oedd yn ei gwman,
tuag at ei wddf, y plocyn tew,
taflu’r pennaeth anfad
tros ei farch, onid arglwydd mwyaf gormesol ydoedd?
Yna datgan a wnaeth y dyn o’r Mers,
gŵr mwyaf garw, floedd a ‘trugaredd!’
Bwrw’r ail a wnaeth, cynheilad praff,
bwrw’r trydydd, ceisiwr ymladdfa.
Dweud a wnaeth ei lu dianrhydedd
ei bod yn achos tristwch iddynt, onid trwstan oedd y digwyddiad?

(cerdd 83.39-48)


Yr hyn a ddisgrifir yma yw ymwan, sef dull o frwydro lle byddai dau ddyn ar gefn ceffylau yn rhuthro at ei gilydd gan ddal eu gwaywffyn yn llonydd dan y fraich dde. Roedd taflu un o’r marchogion oddi ar ei geffyl yn un canlyniad cyffredin i hyn a ddisgrifir yn aml gan y ferf bwrw (canlyniad cyffredin arall oedd torri gwaywffyn).

Ceir cyfeiriadau eraill sy’n awgrymu bod y dull brwydro hwn yn cael ei arfer gan noddwyr y beirdd. Mewn dwy o gerddi Guto crybwyllir r(h)est, sef math o wanas ar ddwyfronneg neu frestblad ymwanwr a oedd yn helpu cynnal y waywffon a’i hatal rhag neidio’n ôl wrth roi ergyd (cerdd 3.16; cerdd 98.44).[2] At hynny, crybwyllir gwaywffyn a cheffylau gyda’i gilydd mewn nifer o gerddi Guto, gan gynnwys ei gerdd moliant i Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais:

A Syr Rys mal sŷr aesawr 
Â’r gwayw ’n eu mysg ar gnyw mawr. 
a Syr Rhys fel sêr ar darian
â’r waywffon yn eu plith ar farch mawr.

(cerdd 14.39-40)


Roedd y ddelwedd o’r marchog yn ymladd fel hyn yn un bwerus ond, mewn gwirionedd, hyd yn oed cyn amser Guto roedd dulliau newydd o ymladd a threfnu byddinoedd (gan gynnwys defnyddio niferoedd mawr o saethwyr) yn golygu bod marchogfilwyr yn aml yn dewis disgyn oddi ar eu ceffylau cyn mynd i ymladd, gan gadw eu sgiliau ymwan ar gyfer maes y twrnamaint neu sgarmesau bach.[3] Mae’r ffaith fod beirdd y cyfnod hwn yn parhau i ddisgrifio eu noddwyr yn ymladd â gwaywffyn yn adlewyrchu cryfder y ddelwedd ‘sifalrig’ ynghyd â hen gonfensiynau’r canu mawl.

(Seiliwyd y drafodaeth uchod ar yr ymdriniaeth fanylach yn: J. Day, ‘ “Arms of Stone upon my Grave”: Weapons in the Poetry of Guto’r Glyn’, yn B.J. Lewis, A. Parry Owen and D.F. Evans (eds), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Essays on Guto’r Glyn and Fifteenth-Century Wales (Aberystwyth, 2013).)

Bibliography

[1]: J.P. Day, ‘Arfau yn yr Hengerdd a cherddi Beirdd y Tywysogion’ (Ph.D. Cymru (Aberystwyth), 2010), 256-63.
[2]: C. Blair, European Armour circa 1066 to circa 1700 (London, 1958), 61, a K. DeVries and R.D. Smith, Medieval Military Technology (2nd edition; Toronto, 2012), 77.
[3]: A. Ayton, ‘English armies in the fourteenth century’, A. Curry and M. Hughes (eds.), Arms, Armies and Fortifications in the Hundred Years War (Woodbridge, 1994), 21-38 (35), ac A. Curry, ‘Guns and Goddams: was there a military revolution in Lancastrian Normandy 1415-50’, Journal of Medieval Military History, 8 (Woodbridge, 2010), 171-88 (180).
<<<Bwâu a saethau      >>>Cleddyfau
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration